Cyngor Tref Llangefni yn cyhoeddi etholiad y Maer a’r Dirprwy Faer am y flwyddyn 2025-26

Yn gyfarfod blynyddol Cyngor Tref Llangefni , Nos Lun 12fed o Mai fe etholwyd Cyng. John Egryn Lewis fel Maer ynghyd a Cyng. Margaret Ann Thomas yn ddirprwy Faer am y flwyddyn 2025 – 26.

Mae Cyng. John Egryn Lewis wedi bod yn aelod ymroddedig o’r gymuned, yn cymryd y swydd gyda phenderfyniad i weithio’n ddi-baid ar ran trigolion y gymuned a chymeryd holl gyfrifoldebau sy’n mynd gyda’r swydd. Mae ganddo hanes hir o fod yn Gynghorydd Llywodraeth leol ar lefel Sirol, ac ar lefel y Gymuned a’r Cyngor Tref.

Wrth dderbyn y swydd, ar ran holl aelodau y Cyngor, diolchodd I’r cyn Faer y Cyng. Terry Jones am ei gyfraniad yn ystod y flwyddyn ac yn benodol am godi swm o arian haelonus a gafodd at fudiadau gwirfoddol,  Hefyd diolchodd i’r cyn Ddirprwy Faer y Cyng. Rhichard Parry.

Bydd y Cyng. Margaret Ann Thomas, sydd yn flaenorol wedi bod yn Faer o’r Dref, yn ei gefnogi. Fel aelod o’r Cyngor Tref mae yn cefnogi mudiadau cymunedol  mewn ffyrdd ymarferol fel aelod yn rhoi cymorth I sefydlu Canolfan Ebeneser, Menter Gymdeithasol Llangefni a Canolfan Glanhwfa, ynghyd a nifer o fudiadau eraill yn y dref.