The history of Llangefni
Mae Llangefni, sef tref sirol Ynys Môn gyda marchnad brysur yng nghanol yr ynys a dyma bencadlys Cyngor Sir Ynys Môn.
Er bod gan y dref wreiddiau sy’n mynd yn ôl i’r cyfnod cyn goresgyniad y Rhufeiniaid, dim ond yn y cyfnod modern gweddol ddiweddar y mae wedi tyfu mewn maint a phwysigrwydd. Mae llawer o bensaernïaeth y dref, gan gynnwys tŵr y cloc a’r eglwys, yn Fictoraidd ac yn tystio i bwysigrwydd cynyddol y dref.


Hanes Cynnar
Mae’r hen ffordd Rufeinig i Gaergybi yn rhedeg drwy’r dref ger glannau’r Afon Cefni o ble y daw ei henw.
Fodd bynnag, enw’r dref ar un adeg oedd Llangyngar ar ôl Sant Cyngar ac mae’r cyswllt hwnnw’n parhau oherwydd enw eglwys y dref.
Mae Capel Cildwrn hyd yn oed yn hŷn ac yn dyddio’n ôl i 1750 ac yn ddiau, byddai’r pregethwr Cymraeg enwog, Christmas Evans a oedd yn byw yn y dref ar un adeg yn gyfarwydd â’r capel.
Cynhaliwyd y farchnad am y tro cyntaf yn 1785 ac mae’n parhau i fod yn boblogaidd iawn bob dydd Iau a dydd Sadwrn.
1800oedd
Wrth edrych ar draws y Dref, gwelir Melin y Graig. Codwyd y felin hon yn 1828 ond yn anffodus, nid yw’n gweithio mwyach.
Mae Gwesty’r Bull yn y sgwâr yn ymyl Neuadd y Dref ac mae’n adeilad rhestredig Graddfa 2. Adeiladwyd y gwesty yn 1852 fel gwesty Fictoraidd lle byddai’r goets fawr yn stopio.
Roedd gan y dref orsaf ar Reilffordd Canolbarth Ynys Môn a agorwyd yn 1864. Caewyd y Rheilffordd yn 1964 er bod trenau cludo nwyddau yn parhau i fynd drwy’r dref hyd 1993. Er nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, nid yw traciau’r rheilffordd wedi cael eu tynnu.
Adeiladwyd Neuadd y Dref o’r un garreg galch ag fe’i hagorwyd ar 10 Mawrth 1884.
1900oedd
Adeiladwyd y cloc yn 1902-1903 o garreg galch Traeth Bychan i goffáu’r rhyfel yn erbyn y Boeriaid (1899-1902) ac er cof am Is-gapten George Pritchard-Rayner o Tre Ysgawen.