Ein Tref

Ein Tref
Llangefni yw tref fwyaf ond un Ynys Môn gydag oddeutu 5,000 o bobl yn byw yno.

Yn hanesyddol, roedd Llangefni yn fan gorffwys pwysig ar yr hen ffordd i borthladd Caergybi ac ymlaen wedyn i Iwerddon. Cychwynnodd llinach y Tuduriaid yn ardal Llangefni ac mae Eglwys hynafol Sant Cyngar yn dyddio yn ôl i’r Oesoedd Tywyll.

 

Roedd lleoliad canolog y dref yn ei gwneud yn lle delfrydol i ffermwyr werthu da byw a chynnyrch. Erbyn heddiw mae ein tref farchnad hanesyddol yn parhau i fod yn lle gwych i siopa, gyda’r enwau mawr a siopau bach annibynnol, ynghyd â’r marchnadoedd prysur a gynhelir ddwywaith yr wythnos ac sy’n mynd o nerth i nerth.

dingle-1

Mae Llangefni yn ganolfan berffaith i archwilio prydferthwch Ynys Môn ac yn gyfleus iawn ar gyfer gweld yr holl gyfoeth sydd gan yr Ynys i’w gynnig; o atyniadau gwych a lleoedd arbennig i aros ynddynt, i gefn gwlad bryniog, traethau tywodlyd a llwybr troed o gwmpas yr arfordir cyfan. Ond mae’n werth ymweld â Llangefni fel tref ynddi ei hun hefyd.

dingle-2

Mae’r dref yn gartref i amgueddfa a chanolfan gelfyddydol Oriel Ynys Môn sy’n ymfalchïo yn y casgliad mwyaf yn y byd o weithiau gan yr arlunydd lleol Syr Kyffin Williams ac arddangosfa barhaol o waith yr arlunydd bywyd gwyllt nodedig Charles Tunnicliffe. Mae golygfeydd gwych o’r dref i bob cyfeiriad a mynediad i lawer o deithiau cerdded hyfryd trwy’r cefn gwlad a choetiroedd – gyda’r cyfan oll yn disgwyl amdanoch.

Oriel Ynys Môn