Sefydlwyd Cyngor Tref Llangefni ar ôl ad-drefnu Awdurdodau Lleol yn 1974. Mae yna 39 o Gynghorau Tref a Chymuned yn Ynys Môn.
Mae 5,116 o etholwyr yn y dref ac mae wedi ei rhannu’n dair ward i ddibenion llywodraeth leol, sef , Cefni, Cyngar a Tudur, gyda phump o Gynghorwyr yn cynrychioli pob ward. Etholwyd y rhan fwyaf o’r Cynghorwyr cyfredol ym mis Mehefin 2008 gyda’r gweddill wedi eu cyfethol i wasanaethu am gyfnod o bedair blynedd.
Cynhelir y cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mis Mai bob blwyddyn pan etholir Maer a Dirprwy Faer newydd.
Mae’r Maer yn cael lwfans blynyddol er mwyn cwrdd â chostau dyletswyddau Dinesig. Nid yw unrhyw Gynghorydd arall yn derbyn unrhyw lwfansau.

















Cynghorwyr Sir
Y Cynghorydd Nicola Roberts, 01248 723540
Y Cynghorydd Dylan W. Rees, 01248 724560
Y Cynghorydd Bob Parry, 07836 573294
Staff Cyngor Tref
Tirmon: Mr. Ben Manton and Mr. Berwyn Jones
Clerc y Dref: Mr. Rhys Parry
Cymhorthydd Clerigol: Linda Powell.
