Mae’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cwblhau rhan gyntaf eu harolwg o Ynys Mon. Mae’r Comisiwn yn cyhoeddi Cynigion Drafft yn awr. Gellir gweld yr adroddiad ar wefan y Comisiwn ar – cffdl.llyw.cymru
Mae’r Comisiwn yn rhoi hysbysiad o’r cyfnod ar gyfer gwneud cynrychiolaethau yn dechrau ar 23 Mehefin 2020 ac yn dod i ben ar 14 Medi 2020. Ar ôl y dyddiad hwn bydd y Comisiwn yn ystyried y sylwadau ac unrhyw dystiolaeth newydd a dderbyniwyd cyn iddynt baratoi eu Cynigion Terfynol. Caiff y rhain eu cyhoeddi a’u cyflwyno i’r Llywodraeth Cymru, a all weithredu’r cynigion naill ai fel y’u cyflwynwyd neu gydag addasiadau.