{"id":398,"date":"2018-09-17T15:33:56","date_gmt":"2018-09-17T14:33:56","guid":{"rendered":"http:\/\/llangefni.org\/gallery\/lon-las-cefni\/"},"modified":"2018-09-17T15:33:56","modified_gmt":"2018-09-17T14:33:56","slug":"lon-las-cefni","status":"publish","type":"portfolio","link":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/portfolio\/lon-las-cefni\/","title":{"rendered":"L\u00f4n Las Cefni"},"content":{"rendered":"<div class=\"cms-textblock\">\n<p>Llwybr gwych sy\u2019n mynd \u00e2 chi trwy rai o olygfeydd mwyaf prydferth Ynys M\u00f4n.<\/p>\n<p>Manylion allweddol y llwybr:<br \/>\nRhanbarth\/Ardal: Gogledd-orllewin<br \/>\nPellter: 11 milltir<br \/>\nTraffig: Di-draffig yn bennaf<br \/>\nWyneb: Cymysg<br \/>\nCychwyn: Malltraeth<br \/>\nGorffen: Cronfa Dd\u0175r Cefni<\/p>\n<p>Disgrifiad o\u2019r Llwybr<br \/>\nGan gychwyn ym mhentref Malltraeth a\u2019i leoliad hyfryd yng nghornel dde orllewinol yr ynys, mae\u2019r llwybr yn mynd ar hyd Cors Malltraeth i Bont Marcwis lle mae\u2019r llwybr di-draffig yn dechrau. Mae\u2019r adran hon o\u2019r llwybr bron yn dair milltir o hyd mewn llinell hollol syth, felly gwae chi pan fydd y gwynt yn eich erbyn!<\/p>\n<p>Ar \u00f4l croesi dros yr A5 ac o dan gefnffordd yr A55, mae\u2019r daith yn croesi lein rheilffordd segur Cangen Amlwch cyn mynd ymlaen i Langefni ar hyd glan Afon Cefni. Ceir digon o lefydd i gael bwyd a cyflenwadau yn yr hen dref farchnad hon cyn parhau ar y daith i gyfeiriad y gogledd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r daith yn eich arwain i warchodfa natur leol Nant y Pandy sydd \u00e2 llwybrau byrddau pren ychwanegol a cherfluniau i gyfoethogi\u2019r daith. Wedi mynd dan lein Cangen Amlwch byddwch wedyn yn beicio uwchben Afon Cefni ar lwybr trawiadol cyn cyrraedd glan Llyn Cefni, cronfa dd\u0175r a gwarchodfa natur leol. Wrth argae\u2019r gronfa gallwch fynd i gyfeiriad y dwyrain i gysylltu \u00e2 Llwybr Cenedlaethol 5 neu fynd am y gorllewin i orffen y daith ym mhentref Bodffordd.<\/p>\n<p>O bentref Malltraeth mae\u2019n bosibl teithio i\u2019r cyfeiriad arall ar draws Cob Malltraeth i Goedwig Niwbwrch. Mae L\u00f4n Las Cefni yn rhedeg drwy\u2019r goedwig, sy\u2019n enwog am ei phoblogaeth o wiwerod coch, i bentref Niwbwrch, neu gallwch barcio eich beic a mynd i draeth Niwbwrch.<\/p>\n<p>Atyniadau naturiol:<br \/>\n\u2022 M\u00f4r Iwerddon<br \/>\n\u2022 Eryri yn gefnlen<br \/>\n\u2022 Gwarchodfeydd natur lleol<\/p>\n<p>Atyniadau i ymwelwyr:<br \/>\n\u2022 Coedwig Niwbwrch<br \/>\n\u2022 Cronfa Dd\u0175r Cefni<br \/>\n\u2022 Oriel Ynys M\u00f4n<\/p>\n<\/div>\n<div class=\"contact-details cms-textblock\"><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llwybr gwych sy\u2019n mynd \u00e2 chi trwy rai o olygfeydd mwyaf prydferth Ynys M\u00f4n. Manylion allweddol y llwybr: Rhanbarth\/Ardal: Gogledd-orllewin Pellter: 11 milltir Traffig: Di-draffig yn bennaf Wyneb: Cymysg Cychwyn: Malltraeth Gorffen: Cronfa Dd\u0175r Cefni Disgrifiad o\u2019r Llwybr Gan gychwyn ym mhentref Malltraeth a\u2019i leoliad hyfryd yng nghornel dde orllewinol yr ynys, mae\u2019r llwybr yn mynd ar hyd Cors Malltraeth i Bont Marcwis lle mae\u2019r llwybr di-draffig yn dechrau. Mae\u2019r adran hon o\u2019r llwybr bron yn dair milltir o hyd mewn llinell hollol syth, felly gwae chi pan fydd y gwynt yn eich erbyn! Ar \u00f4l croesi dros yr A5 ac o dan gefnffordd yr A55, mae\u2019r daith yn croesi lein rheilffordd segur Cangen Amlwch cyn mynd ymlaen i Langefni ar hyd glan Afon Cefni. Ceir digon o lefydd i gael bwyd a cyflenwadau yn yr hen dref farchnad hon cyn parhau ar y daith i gyfeiriad y gogledd. Mae\u2019r daith yn eich arwain i warchodfa natur leol Nant y Pandy sydd \u00e2 llwybrau byrddau pren ychwanegol a cherfluniau i gyfoethogi\u2019r daith. Wedi mynd dan lein Cangen Amlwch byddwch wedyn yn beicio uwchben Afon Cefni ar lwybr trawiadol cyn cyrraedd glan Llyn Cefni, cronfa dd\u0175r a gwarchodfa natur leol. Wrth&#8230;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":396,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","format":"standard","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/portfolio\/398"}],"collection":[{"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/portfolio"}],"about":[{"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/portfolio"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=398"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/portfolio\/398\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/396"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=398"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}