{"id":391,"date":"2018-09-17T15:31:20","date_gmt":"2018-09-17T14:31:20","guid":{"rendered":"http:\/\/llangefni.org\/gallery\/gwarchodfa-natur-nant-y-pandy-the-dingle\/"},"modified":"2018-09-17T15:31:20","modified_gmt":"2018-09-17T14:31:20","slug":"gwarchodfa-natur-nant-y-pandy-the-dingle","status":"publish","type":"portfolio","link":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/portfolio\/gwarchodfa-natur-nant-y-pandy-the-dingle\/","title":{"rendered":"Gwarchodfa Natur Nant y Pandy (The Dingle)"},"content":{"rendered":"<p>Dyffryn coediog 10 hectar (25 acer) ac ynddo gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes ydy Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.<\/p>\n<p>Cafodd yr ardal ei gwella yn cynnwys llwybr bordau pren sy\u2019n ymdroelli ar hyd Afon Cefni, tair pont droed newydd o goed derw, cerfluniau yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gwas y neidr enfawr, hadau planhigion anferthol a choed derw wedi eu hollti i ddatgelu\u2019r gerdd \u2018Nant y Pandy\u2019 gan y bardd lleol, Rolant o F\u00f4n.<br \/>\nMae\u2019r llwybr bordau pren yn caniatau i bawb fynd i sawl rhan o warchodfa. Rheolir Nant y Pandy gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys M\u00f4n.<\/p>\n<p>Coed derw digoes, ynn a cheirios gwyllt sydd i\u2019w gweld yn bennaf mewn rhannau o\u2019r coetir gyda sioe ysblennydd o glychau\u2019r gog yn y gwanwyn. Mae rhannau eraill, coed sycamorwydden ac ambell i onnen sydd i\u2019w gweld gyda phentwr o redyn a mwsog a blodau \u2018r goedwig megis blodau\u2019r gwynt.<\/p>\n<p>Plannwyd castanwydd, ffawydd a phinwydd gwyllt yng Nghoed Plas a gwelir yno garped o gennin Pedr yn y gwanwyn.<\/p>\n<p>Mae llyffantod a madfallod yn byw yn y mannau gwlyb ac mae gwiberod a genau-goegiaid yn byw yn y coetir sychach. Ceir yma sawl math o l\u00f6yn byw megis llwyd bach y dd\u00f4l a brith y coed a gwyfynod hefyd. Yn ogystal, gwelir gweision y neidr a mursennod, pryfed hofran, gwenyn a gwenyn meirch, chwilod, gwlithod a malwod, pryfed cop, pryfed lludw a nifer o greaduriaid bychain eraill.<\/p>\n<p>Mae adar i\u2019w gweld yma drwy\u2019r flwyddyn: mae\u2019r titw tomos las a\u2019r titw mawr yn nythu yn y coed a\u2019r l\u00e2r ddwr hithau yn nythu wrth y d\u0175r; mae\u2019r dryw a\u2019r siglen lwyd yn enghreifftiau o\u2019r adar bach sydd i\u2019w gweld yn aml o\u2019r llwybr bordiau pren a gwelir adar mwy megis y gigfran, y boncath a\u2019r cr\u00ebyr yn hedfan uwchben. Mae modd gweld glas y dorlan hefyd yn fflach o las trydanol neu drochwr yn siglo i fyny ac i lawr ar hyd yr afon. Gellir clywed y dylluan frech a\u2019i gweld yn aml hefyd yn y coetir yn y nos.<br \/>\nGellir gweld pysgod megis y brithyll, y cochiad a\u2019r pysgodyn garw yn y Llyn Pwmp ac o bryd i\u2019w gilydd daw siwin a\u2019r slywen i ymweld.<\/p>\n<p>Mae mamaliaid yn fwy anodd o lawer i\u2019w gweld. Efallai na fydd modd gweld y llwynog, dim ond clywed ei arogl ar draws llwybr. Gellir gweld olion y llygoden goch a llygoden y maes yn y darnau o gnau cyll sy\u2019n cael eu gadael ganddynt. Wrth iddi dywyllu, mae modd gweld 8 allan o\u2019r 16 math o ystlum sydd ym Mhrydain.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyffryn coediog 10 hectar (25 acer) ac ynddo gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes ydy Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy. Cafodd yr ardal ei gwella yn cynnwys llwybr bordau pren sy\u2019n ymdroelli ar hyd Afon Cefni, tair pont droed newydd o goed derw, cerfluniau yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gwas y neidr enfawr, hadau planhigion anferthol a choed derw wedi eu hollti i ddatgelu\u2019r gerdd \u2018Nant y Pandy\u2019 gan y bardd lleol, Rolant o F\u00f4n. Mae\u2019r llwybr bordau pren yn caniatau i bawb fynd i sawl rhan o warchodfa. Rheolir Nant y Pandy gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys M\u00f4n. Coed derw digoes, ynn a cheirios gwyllt sydd i\u2019w gweld yn bennaf mewn rhannau o\u2019r coetir gyda sioe ysblennydd o glychau\u2019r gog yn y gwanwyn. Mae rhannau eraill, coed sycamorwydden ac ambell i onnen sydd i\u2019w gweld gyda phentwr o redyn a mwsog a blodau \u2018r goedwig megis blodau\u2019r gwynt. Plannwyd castanwydd, ffawydd a phinwydd gwyllt yng Nghoed Plas a gwelir yno garped o gennin Pedr yn y gwanwyn. Mae llyffantod a madfallod yn byw yn y mannau gwlyb ac mae gwiberod a genau-goegiaid yn byw yn y coetir sychach. Ceir yma sawl math o l\u00f6yn byw megis&#8230;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":389,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","format":"standard","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/portfolio\/391"}],"collection":[{"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/portfolio"}],"about":[{"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/portfolio"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=391"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/portfolio\/391\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/389"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llangefni.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=391"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}