Lôn Las Cefni

Llwybr gwych sy’n mynd â chi trwy rai o olygfeydd mwyaf prydferth Ynys Môn.

Manylion allweddol y llwybr:
Rhanbarth/Ardal: Gogledd-orllewin
Pellter: 11 milltir
Traffig: Di-draffig yn bennaf
Wyneb: Cymysg
Cychwyn: Malltraeth
Gorffen: Cronfa Ddŵr Cefni

Disgrifiad o’r Llwybr
Gan gychwyn ym mhentref Malltraeth a’i leoliad hyfryd yng nghornel dde orllewinol yr ynys, mae’r llwybr yn mynd ar hyd Cors Malltraeth i Bont Marcwis lle mae’r llwybr di-draffig yn dechrau. Mae’r adran hon o’r llwybr bron yn dair milltir o hyd mewn llinell hollol syth, felly gwae chi pan fydd y gwynt yn eich erbyn!

Ar ôl croesi dros yr A5 ac o dan gefnffordd yr A55, mae’r daith yn croesi lein rheilffordd segur Cangen Amlwch cyn mynd ymlaen i Langefni ar hyd glan Afon Cefni. Ceir digon o lefydd i gael bwyd a cyflenwadau yn yr hen dref farchnad hon cyn parhau ar y daith i gyfeiriad y gogledd.

Mae’r daith yn eich arwain i warchodfa natur leol Nant y Pandy sydd â llwybrau byrddau pren ychwanegol a cherfluniau i gyfoethogi’r daith. Wedi mynd dan lein Cangen Amlwch byddwch wedyn yn beicio uwchben Afon Cefni ar lwybr trawiadol cyn cyrraedd glan Llyn Cefni, cronfa ddŵr a gwarchodfa natur leol. Wrth argae’r gronfa gallwch fynd i gyfeiriad y dwyrain i gysylltu â Llwybr Cenedlaethol 5 neu fynd am y gorllewin i orffen y daith ym mhentref Bodffordd.

O bentref Malltraeth mae’n bosibl teithio i’r cyfeiriad arall ar draws Cob Malltraeth i Goedwig Niwbwrch. Mae Lôn Las Cefni yn rhedeg drwy’r goedwig, sy’n enwog am ei phoblogaeth o wiwerod coch, i bentref Niwbwrch, neu gallwch barcio eich beic a mynd i draeth Niwbwrch.

Atyniadau naturiol:
• Môr Iwerddon
• Eryri yn gefnlen
• Gwarchodfeydd natur lleol

Atyniadau i ymwelwyr:
• Coedwig Niwbwrch
• Cronfa Ddŵr Cefni
• Oriel Ynys Môn

Share Our Work