Bydd Goleuadau Nadolig y Dref yn cael eu rhoi ymlaen Nos Wener, 2ail o Ragfyr 2022 am 6.45yh.
Fel rhan o’r dathlu a mwynhau awyrgylch y noson, i ddilyn, bydd Canu Carolau o amgylch y Cloc, yng nghwmni Band Pres Porthaethwy a Hogia Bodwrog. Cychwyn am 7.00yh hyd at 8.00yh.
Croeso i bawb ymuno.