Arddangosfa Ffenestr Nadolig

At: Holl Fusnesau’r Dref

Eleni, fel yn y gorffennol, bydd y Cyngor Tref yn hyrwyddo Cystadleuaeth ar gyfer y ffenestr sydd wedi ei haddurno orau.

Mae’r beirniadu yn cael ei wneud yn ystod phrynhawn Dydd Llun, 14eg o Ragfyr 2020, bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno ar Safle We a Thudalen Facebook y Cyngor Tref. Bydd Goleuadau Nadolig y Dref yn cael eu rhoi ymlaen Nos Wener 4ydd o Ragfyr 2020 am 6.00y.h. Eleni, oherwydd Pandemic COVID-19, fydd dim Dathlu’r Goleuadau Nadolig a Gweithgareddau yn mynd ymlaen o gwmpas Cloc y Dref a Maes Parcio Neuadd y Dref, mae hyn er mwyn lleihau trosglwyddiad y feirws a diogelwch y cyhoedd.

Ar ran holl Aelodau a Swyddogion y Cyngor Tref, hoffwn gymryd y cyfle yma i ymestyn i chi, eich teuluoedd a’ch staff, ein dymuniadau gorau am gyfnod Nadolig hapus, gan obeithio bydd ein bywyd arferol yn dychwelyd yn fuan.

Cadwch yn ddiogel.

Yn gywir
Cynghorydd Margaret Thomas
Maer y Dref